Cefndir
Er bod gweithredu gan lywodraeth leol yn dibynnu i raddau helaeth ar gyllid a’r ffordd y caiff pwerau eu datganoli, gall awdurdodau lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae ymchwil gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod gan awdurdodau lleol bwerau neu ddylanwad dros tua thraean o’r holl allyriadau yn eu hardaloedd. Gallwch holi ymgeiswyr am eu cynlluniau hinsawdd mewn pum maes allweddol:
1. Llunio cynlluniau datgarboneiddio
Yng Nghymru, mae pob cyngor lleol wedi cyhoeddi cynllun datgarboneiddio. Mae pob un wedi ymrwymo i gyrraedd sero net o ran eu gweithgarwch eu hunain erbyn 2030 fel rhan o nod cyffredinol Llywodraeth Cymru o gael sector cyhoeddus sero net erbyn y dyddiad hwnnw, ac i gyfrannu ymhellach at y nod o Gymru sero net erbyn 2050 [2]. Y dasg yn awr yw craffu ar ansawdd y cynlluniau hyn a dal cynghorau’n atebol am weithredu. Gallwch weld sut mae eich cyngor yn cymharu ag eraill a nodi’r hyn y gallant ei wella https://councilclimatescorecards.uk/
2. Trafnidiaeth
Bydd systemau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, carbon niwtral a diogel yn chwarae rhan allweddol mewn adferiad cyfiawn a gwyrdd yn lleol. Mae cynghorau cyfagos yn cydweithio fel cydbwyllgorau rhanbarthol i oruchwylio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a gallant flaenoriaethu ymdrechion datgarboneiddio. Gallant hefyd chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r newid i ddefnyddio cerbydau trydan a datblygu seilwaith cerdded a beicio.
3. Adeiladau
Mae cynghorau yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod adeiladau newydd yn ynni-effeithlon a bod modd ôl-osod hen adeiladau gyda gwell insiwleiddio a systemau gwresogi. Mae hyn yn berthnasol i adeiladau sy’n eiddo i’r cyngor ac adeiladau sy’n eiddo preifat, gan eu bod yn goruchwylio’r cynllunio a rheoleiddio (er eu wedi eu cyfyngu gan safonau a osodwyd gan y llywodraeth genedlaethol). Gallant fapio’r stoc tai lleol a deall orau beth yw anghenion penodol pobl a lleoedd yn eu hardal.
4. Ynni
Gall pob cyngor annog datblygu seilwaith ynni glân. Gallant ddod â phartneriaid lleol perthnasol ynghyd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer dyfodol ynni lleol, gallant ddylanwadu ar weithredu seilwaith ynni glân gyda pholisi cynllunio, a chynnig cymorth i bobl leol a sefydliadau ynni cymunedol ymgymryd â phrosiectau ynni.
5. Gwastraff
Mae cynghorau yn gyfrifol am gasglu a gwaredu gwastraff. Gallant gymryd camau i gynyddu ailgylchu, sicrhau bod yna gasgliadau gwastraff bwyd a gardd, a gwella cyfathrebu ynghylch gwaredu gwastraff yn briodol.
Beth yw’r weledigaeth?
Yr argyfwng hinsawdd yw mater mwyaf brys ein hoes, ac mae cyfiawnder i bobl a’r blaned yn ganolog i’n diwinyddiaeth[3]. Mae’r egni a adeiladwyd o amgylch COP26 wedi cilio braidd, wrth i gytundebau rhyngwladol siomi a dadrithio cymunedau pryderus ar lawr gwlad. Mae ymgysylltu ar faterion hinsawdd ar lefel leol, trwy gefnogi ein cynghorau i wneud sero net yn realiti yn ein cymdogaethau, yn cyflwyno cyfle llawer mwy agosatoch i eglwysi geisio cyfiawnder yn eu cymunedau. Wrth inni wneud newidiadau i’n ffyrdd o fyw, ein cartrefi a’n hadeiladau ein hunain, gall eglwysi arwain y ffordd yn lleol wrth helpu awdurdodau i gyflawni trosglwyddiad cyfiawn i sero net.
Cwestiynau i ymgeiswyr
- Beth yw’r camau cyntaf y byddwch yn eu cymryd i sicrhau llwyddiant Cynllun Datgarboneiddio eich cyngor lleol?
- Pa bwerau ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen arnoch gan lywodraeth genedlaethol i allu cyflymu’r broses o drosglwyddo i sero net yn y gymdogaeth hon?
- Sut y byddwch yn sicrhau bod y cyfnod pontio i sero net yn bontio cyfiawn a theg, yn enwedig i’r rhai sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw?
- Sut gall fy eglwys, ynghyd â grwpiau cymdeithas sifil lleol eraill, eich cefnogi i gyflawni hyn?
Deunydd darllen/adnoddau pellach
- Hope in God’s Future: myfyrdod diwinyddol am faterion amgylcheddol
- Crynodeb manwl o beth all llywodraeth leol ei gyflawni o ran cyrraedd sero net
- Council Climate Scorecards: cymharwch gynlluniau gweithredu cynghorau ar yr hinsawdd
- Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru: Adolygiad Medi 2021
- Gweld yr holl ddata am ddatganiadau hinsawdd cynghorau lleol
- Canllaw ymgyrchu er mwyn trafod cynlluniau hinsawdd gyda chynghorau
- Darganfyddwch beth sy’n digwydd yn eich ardal chi
Paratowyd y ddogfen gan Matt Ceaser gyda mewnbwn gan Gethin Rhys, Mawrth 2022.
Mae’r wybodaeth yn gywir adeg ei hysgrifennu.
[1] https://www.wlga.cymru/decarbonisation-support-programme-for-welsh-local-authorities
[2] https://data.climateemergency.uk/councils/
[3] http://jpit.uk/wp-content/uploads/2021/05/Hope-in-Gods-Future-3rd-Edition.pdf